Atodiad 1

 

Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

 

Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

 

 

 

Fel rhan o’i ystyriaethau Cyfnod 1, mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru).

 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon y ffurflen hon at Gynulliad Cenedlaethol Cymru erbyn 31 Ionawr 2013.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8120, neu â Leanne Hatcher, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8147.

 

Dylid anfon ymatebion i:

 

Pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk

Neu drwy'r post:

Leanne Hatcher

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

                                                                                                                                     

Eich enw:        Martin Peters

 

Sefydliad (os yw'n berthnasol): Swyddfa Archwilio Cymru

 

Cyfeiriad e-bost: martin.peters@wao.gov.uk

 

Rhif Ffôn: 02920 320 526

 

Eich cyfeiriad: 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

 

 


Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 1: A oes angen Bil i wneud newidiadau i gyfansoddiad a swyddogaethau’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") ac i wneud amrywiol ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraeth leol?

Oes

Nac oes

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Un o’r prif resymau pam fod angen deddfwriaeth yw oherwydd, o dan y deddfwriaeth presennol, fod rhaid i’r Comisiwn gwblhau adolygiadau o fewn amserlen afresymol o drwm ac o fewn y cyfyngiad annefnyddiol o beidio gallu newid ffiniau cymunedau. Tra y gellir mynd i’r afael â mater yr amserlen drwy orchmynion gan Weinidog o dan Ddeddf 1972, ni fyddai’r gorchmynion yn delio â’r broblem o ran ffiniau cymunedau. Mewn unrhyw achos, gall dibynadwyedd ar orchmynion gan Weinidog fod yn annymunol o safbwynt hyder cyhoeddus yng ngwaith y Comisiwn.

 

Rydym hefyd yn ystyried fod deddfwriaeth newydd yn ffordd rhesymol o gyflymu darpariaeth mynediad electronig at wybodaeth cynghorau cymuned i’r fath raddau fel y gellir sicrhau hyn o fewn amserlen gymharol fer (tua 2 flynedd). Mae hwn yn briodol, gan fod diffyg cyfathrebu electronig â’r cyhoedd ymysg nifer sylweddol o gynghorau cymuned.

 

 

Cwestiwn 2: A ydych o'r farn y bydd y Bil yn gwella’r dull o gyflawni rolau a swyddogaethau statudol y Comisiwn? (paragraff 3.1 o'r Memorandwm Esboniadol)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Er mwyn caniatáu cylched barhaus o adolygu, dylai’r Bil helpu’r Comisiwn i sicrhau dull mwy cyson a chynaliadwy o weithio. Dylai’r Bil hefyd helpu drwy gefnogi gweithdrefnau ymgynghori gwell o ran cynigion adolygu ffiniau.

 

 

Cwestiwn 3: A ydych o'r farn bod y newidiadau sy'n cael eu gwneud i'r Comisiwn yn briodol? (Rhan 2 y Bil)

Ydw

Nac ydw

 

Yn gyffredinol, ydw. Dylai codi’r cworwm i dri helpu i sicrhau safon dda o ran gwneud penderfyniadau. Ond er mwyn helpu i sicrhau fod y Comisiwn yn cael ei weinyddu’n gyson, efallai y byddai’n well pe bai’r Prif Weithredwr yn cael ei benodi gan y Comisiwn yn hytrach na Gweinidogion Cymru.

 

 


Trefniadau Llywodraeth Leol

 

Cwestiwn 4: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer adolygiadau llywodraeth leol yn briodol? (Pennod 4 a 5)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Yn gyffredinol, ydw. Mae’n ymddangos yn briodol fod y darpariaethau ar gyfer adolygiadau llywodraeth leol yn nodi fod angen i’r Comisiwn ymgynghori ar y weithdrefn arfaethedig a dull yr adolygiad, yn arbennig o ran sut i bennu nifer priodol aelodau’r cynghorau. Dylai, fodd bynnag, fod o gymorth o ran tryloywder ac ymgysylltu â’r cyhoedd os oedd rhaid i’r Comisiwn hefyd gyhoeddi ei weithdrefnau a dulliau arfaethedig yn electronig (ac mewn cyfryngau eraill ar gais).

 

Mae hi hefyd yn ymddangos yn briodol fod rheidrwydd ar gyrff sy’n adolygu i ymgynghori ar gynigion drafft ar gyfer yr ardal sydd yn cael ei adolygu, yn cynnwys eu cyhoeddi yn electronig.

 

Dylai fod o gymorth i dryloywder ac ymddiriedaeth a hyder cyhoeddus os oedd darpariaeth ychwanegol yn y Bil, yn nodi fod rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn, wrth dderbyn adroddiadau (fel y gallai’r achos fod) i gyhoeddi rhesymau dros beidio rhoi argymhellion mewn lle, neu eu gweithredu ag addasiadau.

 

 

Cwestiwn 5: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

  • Dyletswyddau'r Comisiwn
  • Dyletswyddau prif gynghorau

yn briodol? (Pennod 1)

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Ar y cyfan, ydw, ond ynghyd â cheisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, byddai’r briodol i’r Comisiwn a’r prif gynghorau fod yn ymwybodol o’r angen am economi ac effeithlonedd o fewn llywodraeth leol. Byddai darpariaeth ychwanegol o’r fath yn diogelu’r Comisiwn a’r cynghorau rhag gwneud cynigion sydd yn effeithiol a chyfleus, ond sydd yn ddiangen o ddrud. Rydym o’r farn fod ystyriaeth o’r fath yn debygol o fod ar y gweill, ond gall darpariaeth pendant fod yn amddiffynfa ychwanegol ddefnyddiol.

 

 

Cwestiwn 6: A ydych o'r farn bod y trefniadau ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â:

  • Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd (Adran 56)
  • Pwyllgorau Archwilio (Adran 57)
  • Pwyllgorau Safonau (Adran 63)

yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae’r darpariaethau o ran pwyllgorau gwasanaethau democrataidd yn ymddangos fel petaent yn fuddiol yn nhermau penderfyniad lleol o arferion gweithio er mwyn gweddu y sefyllfaoedd presennol orau.

 

Dylai’r eglurhad o gyfansoddiad y pwyllgorau archwilio fod o gymorth o safbwynt osgoi dadl hirfaith.

 

Dylai’r darpariaeth ar gyfer pwyllgorau safonau rhanbarthol fod yn ddefnyddiol o ran sicrhau argaeledd aelodau annibynnol addas, effeithlonrwydd a chysondeb dulliau gweithio.  

 

 

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

 

Cwestiwn 7: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn briodol? (Pennod 5, Adrannau 58-62)

 Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Ymddengys fod y darpariaethau yn lliflinio, yn ddefnyddiol, fanyleb o derfynau cyflogau uwch-weithwyr ac wrth roi ystyriaeth i achosion penodol.

 

 


Mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned)

 

Cwestiwn 8: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â hwyluso mynediad at wybodaeth (Cynghorau Tref a Chymuned) yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae hi’n glir nad yw nifer sylweddol o gynghorau cymuned yn darparu lefel ddigonol o gyfathrebu electronig ynglŷn â’u trafodion. Byddai deddfwriaeth yn fodd realistig o gyflymu’r darpariaeth a fyddai o gymorth wrth hybu ymgysylltu â’r cyhoedd. Dylai’r cwmpas ar gyfer rhannu darpariaeth gwefan fod o gymorth i alluogi dull economaidd o gyfathrebu, er gallai fod o help pe bai darpariaethau yn gwneud hyn yn fwy eglur drwy gyfeirio ato’n bendant. Gallai rhai gasglu o deitl yr adran “gwefannau cynghorau cymuned” fod rhaid i gynghorau unigol gynnal a chadw eu gwefan eu hunain. Gall “Darpariaeth gwybodaeth yn electronig gan gynghorau cymuned” fod yn deitl gwell.

 

Mae’n debyg fod yr amserlen a ragwelir (Mai 2015) yn realistig, ond gall fod yn ddefnyddiol, er eglurdeb, i roi’r dyddiad dechrau ar gyfer y darpariaethau hyn ar wyneb y Bil.

 

 

Cadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau)

 

Cwestiwn 9: A ydych o'r farn bod y darpariaethau mewn perthynas â Chadeirio Prif Gynghorau (Cadeiryddion a Meiri Prif Gynghorau) yn briodol?

Ydw

Nac ydw

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae’n ymddangos fod y darpariaethau yn cwrdd â’u hamcan o ganiatáu gwahanu’r swyddogaethau seremonïol oddi wrth lywyddu cyfarfodydd, sydd yn ei hun yn ymddangos yn rhesymol.

 

 

 

 

 

 

 

 


Darpariaethau Cyffredinol y Bil

 

Cwestiwn 10: Beth yw'r rhwystrau posibl i roi darpariaethau'r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw'r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Rydym o’r farn mai’r prif rwystr i roi hyn ar waith fydd o ran mynediad electronig gan gynghorau cymuned. Mae’r nodiadau eglurhad yn nodi, yn ddefnyddiol, y bydd y darpariaethau hyn (adrannau 53 a 54) yn dechrau ym mis Mai 2015, a ddylai ganiatáu amser digonol i’r cynghorau cymuned wneud trefniadau, ond nid yw hyn ar wyneb y Bil.

 

Mae swm sylweddol o glercod cyngor yn debygol o fod angen rhyw fath o hyfforddiant neu gymorth er mwyn sicrhau eu bod yn medru darparu deunyddiau yn electronig, hyd yn oed os ydyn nhw am gael gwefan wedi ei ddarparu gan berson arall. Mae hi hefyd yn bosib y byddai peth inertia diwylliannol i’w oroesi, yn cynnwys pryderon cynghorau y bydd gormod o ymholiadau yn cael eu hanfon atynt ar ebost. Gallai arweiniad gan y Llywodraeth fod yn ddefnyddiol i fynd i’r afael â’r materion hynny, ac yn arbennig i gynnwys dulliau o ran sicrhau digon o ddarpariaeth i ddelio â chyfatebiaeth annifyr.  

 

Gallai’r costau posib sy’n gysylltiedig â darparu mynediad arlein i ddogfennau hefyd fod yn broblem i gynghorau bychan. Mae oddeutu 22% o gynghorau cymuned yn gwario llai na £5,000 y flwyddyn, a 19% arall yn gwario rhwng £5,000 a £10,000 y flwyddyn. Gallai cost ychwanegol o £1,000 y flwyddyn gael ei weld fel cost ychwanegol sylweddol i’r cynghorau hyn.

 

 


 

Cwestiwn 11: Beth yw goblygiadau ariannol y Bil, os ydynt yn bodoli? Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae'n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith) sy'n cynnwys amcangyfrif o'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â rhoi'r Bil ar waith.

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Mae goblygiadau ariannol y Bil yn ymddangos fel petaent, yn gyffredinol, wedi eu hasesu yn rhesymol yn y memorandwm esboniadol. Nid ydym yn credu, fodd bynnag, ei bod hi’n debygol y byddai rhoi rheidrwydd ar gynghorau cymuned i ddarparu gwybodaeth yn electronig yn arwain at arbedion wrth gael gwared ar yr angen am bapurau a chopïau caled. Bydd dal angen am rybuddion papur a chofnodion ayyb. Mae hi hefyd yn debygol y byddai peth cost ychwanegol yn deillio o’r cynnydd yn y lefelau o ymgysylltu gan y cyhoedd, megis amser y clerc wrth ddelio ag ymholiadau ebost.

 

Gwelwn werth o adolygiad ehangach yn dilyn rhoi’r darpariaethau mewn lle. Er enghraifft, mewn perthynas â mynediad cynghorau cymuned i ddarpariaethau gwybodaeth, gellir adnabod gwersi defnyddiol ar gydweithredu ac ymgysylltu â’r cyhoedd drwy gynnal astudiaeth werthuso o drefniadau mynediad cynghorau cymuned, yn cynnwys asesu caffael a’r effaith ar y cyhoedd. Rydym yn amcangyfrif y byddai astudiaeth werthuso o’r fath yn costio tua £50,000, ond y gallai arwain at rai arbedion o ganlyniad i wersi caffael a gwasanaethau gwell.

 

 

Cwestiwn 12: Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynnau statudol, gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion) (adran 5 y Memorandwm Esboniadol)?

Ymhelaethwch ar eich ateb

 

Maen nhw’n ymddangos yn briodol.

 

 

Cwestiwn 13: A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o'r Bil?     

 

Mae’r darpariaethau ariannol ar gyfer y Comisiwn, yn cynnwys ar gyfer cyfrifon ac archwilio, (cymalau 15 i 20) yn briodol.